
| Beth | Cynhadledd Nadolig ym Mhrifysgol Caerdydd |
| Pwy | Myfyrwyr Blwyddyn 12 |
| Pryd | 9 Rhagfyr 2025 9.30-14:00 |
| I gofrestru | Athrawon: https://hub.rhgmc-mspw.cymru/book-event.php?event_id=81 Myfyrwyr: https://hub.rhgmc-mspw.cymru/student-consent.php?event_id=81 Cwestiynau: rhgmc-mspw@swansea.ac.uk |
Mwy o wybodaeth
Mae Rhaglen Gymorth Mathemateg Cymru yn falch o gynnal y Gynhadledd Nadolig i Flwyddyn 12 yn Adeilad Abacws, Prifysgol Caerdydd, ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 12 o ysgolion Cymru.
Bydd y diwrnod yn cynnwys sesiynau adolygu, sgyrsiau mathemateg hwyliog, posau, cystadleuaeth poster a llawer mwy. Bydd y gynhadledd yn ffordd dda o ddeall cynnwys mathemateg Safon Uwch, ynghyd ag annog pobl ifanc i astudio mathemateg a rhannu pa mor wych y gall fod.
Gellir cwblhau posteri ar amrywiaeth o bynciau mathemateg diddorol, a byddant yn cael eu beirniadu ar sail y fathemateg orau, y gweledol gorau (dewis y myfyrwyr!) a’r prif enillydd. Bydd angen cwblhau’r posteri a’u cyflwyno erbyn Rhagfyr 5ed 2025, er mwyn i’r posteri gael eu hargraffu a’u harddangos yn y gynhadledd. Rhoddir gwobrau ar ddiwedd y gynhadledd. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei anfon ar ôl cofrestru ar gyfer y gynhadledd.
Ni fydd unrhyw gost am y diwrnod i ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth.
Nid oes angen i athro ddod gyda myfyrwyr Blwyddyn 12, ond bydd rhagor o wybodaeth, gan gynnwys ffurflenni caniatâd rhieni a gwybodaeth am y gystadleuaeth posteri, yn cael ei hanfon atoch pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer y gynhadledd hon.
Eleni dim ond 90 o leoedd sydd gennym a fydd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, felly archebwch yn fuan.
Bydd cydnabyddiaeth a ffurflenni caniatâd myfyrwyr yn cael eu hanfon ar ar ôl derbyn y ffurflen archebu .
Dyddiad Cau Cofrestru: 22 Tachwedd 2025


