Beth | Cyrsiau Dysgu Proffesiynol – Cofrestrwch nawr ar gyfer 2025/26 |
Pwy | Athrawon CA4 a CA5 |
Pryd | Hydref, Gaeaf a Gwanwyn 2025/26 |
Sut | Ar-Alw |
I archebu | rhgmc-mspw@swansea.ac.uk |
Rhagor o wybodaeth
Mae’n bleser gan RGMC gynnig y cyrsiau Dysgu Proffesiynol NEWYDD canlynol AM DDIM:
Cofrestrwch nawr a chael mynediad i’r cwrs ar Fedi 15fed
- Profion Derbyn Mathemateg Prifysgol
- TGAU Canolradd
- TGAU Mathemateg a Rhifedd (Dyfarniad Dwbl) Uwch Newydd
- Dulliau Datrys Problemau ar gyfer oedrannau 3-16
- Mathemateg Bellach 2
- Mathemateg Bellach 3
- Mathemateg Bellach 4
Sut i ymuno â chwrs DP Ar-alw RhGMC?
- Mae athro yn penderfynu y byddent yn hoffi cofrestru ar un neu fwy o’n cyrsiau Dysgu Proffesiynol Ar-alw.
Beth sy’n digwydd nesaf?
- Anfonwch e-bost at dîm RhGMC
s.m.morris@swansea.ac.uk (Sian Morris – cymorth gweinyddol DP)
rhgmc-mspw@swansea.ac.uk cyfeiriad e-bost cyffredinol RhGMC
- Mae Sian yn anfon ymateb yn cadarnhau’r ysgol, yn gofyn am ddata derbyn, pa gyrsiau Ar-alw, opsiwn cwrs Cymraeg, ac ati.
- Ar ôl dychwelyd y data derbyn, caiff y cyfranogwr newydd ei ychwanegu at y Tîm Microsoft priodol.
- Anfonir e-bost cyflwyniadol yn eu croesawu i’r Gymuned Ar-alw.
- Anfonir cylchlythyrau a cheisiadau am adborth yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.
- Mae croeso i gyfranogwyr gwblhau cymaint neu gyn lleied o’r cwrs ag y dymunant, ar eu cyflymder eu hunain. Os ydynt am ddilyn ardystiad bydd angen iddynt gyflwyno’r holl aseiniadau gofynnol. (Nid yw’r dystysgrif yn berthnasol i rai cyrsiau).
Cyrsiau Cyfredol
- Mathemateg Uwch TGAU – Ar alw
- Mathemateg Lefel A – Ar alw
- Mathemateg Ychwanegol – Ar alw
- Mathemateg Bellach Uned 1 – Ar alw
- Mathemateg Bellach Uned 5- Ar alw
- Mathemateg Bellach Uned 6- Ar alw
- Cwrs technoleg Geogebra ar gyfer CA3, TGAU, Mathemateg Lefel A a Mathemateg Bellach Lefel A
- Cwrs technoleg DESMOS
Er mwyn archebu lle yn un o’r cyrsiau Dysgu Proffesiynol ebostiwch rhgmc-mspw@swansea.ac.uk